pN(5)017 - Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") sy'n ymwneud â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gwneir diwygiadau hefyd i Ddeddf 2016 sy'n ymwneud â gwaharddiadau i gwmpas gwasanaethau eiriolaeth rheoledig, i ddiwygio cyfeiriadau at Gyfreithwyr Ewropeaidd, ac at Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae'r diwygiadau hyn yn ofynnol er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Argymhelliad y Pwyllgor ynghylch y weithdrefn briodol

Rydym wedi trafod y meini prawf a nodir yn Rheol Sefydlog 21.3C.

Am y rhesymau canlynol, rydym yn argymell mai gweithdrefn y penderfyniad cadarnhaol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn:

1. Diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn sylweddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn diwygio adrannau sylweddol o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae diwygio deddfwriaeth sylfaenol mor sylweddol â hyn, ynddo’i hun, yn ddigon i fynnu bod y Rheoliadau hyn yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn o dan weithdrefn y penderfyniad cadarnhaol.

2. Cymwysterau gofal cymdeithasol

Ni fydd cyfraith bresennol yr UE sy'n hwyluso symudiad rhydd gweithwyr gofal cymdeithasol (drwy gyfrwng fframwaith cytbwys o reolau ar gyfer cydnabod cymwysterau gofal cymdeithasol) yn gymwys bellach ar ôl gadael yr UE, os na cheir cytundeb. 

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r rheolau a fydd yn gymwys i gydnabod cymwysterau gofal cymdeithasol gweithwyr gofal cymdeithasol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ar ôl ymadael â’r UE.

O dan y Rheoliadau hyn, ar ôl ymadael, bydd gweithwyr gofal cymdeithasol â chymwysterau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn gallu ceisio cydnabyddiaeth o'u cymwysterau drwy system gofrestru ryngwladol bresennol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y nodwyd ym mharagraff 4.7 y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau:

"As is currently the case for International applicants, EEA and Swiss qualifications will be assessed against the equivalent UK qualification standards for social care professionals, and if they are found to be comparable, SCW will be required to recognise the qualification, with no additional tests to an applicant’s practical skills. SCW will still be able to check an applicant’s Language skills and whether there are concerns about their fitness to be registered. In cases where a qualification is not comparable, SCW will have discretion as to how it proceeds with the recognition process. There will be no obligation to offer compensatory measures where a qualification is not comparable to the UK qualification standard, as was previously the case under [EU law].”

Felly, mae pwnc y Rheoliadau hyn, a'r effaith anhysbys y gallant ei chael ar ofal cymdeithasol yng Nghymru (rydym yn nodi nad oes unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol nac unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus wedi’u cynnal), yn amlwg yn codi materion o bwysigrwydd cyhoeddus a gwleidyddol.

3. Nid yw'r rhain yn welliannau technegol

Rydym yn anghytuno â'r honiad ym mharagraff 2.2 o'r Memorandwm Esboniadol bod pwnc yr is-ddeddfwriaeth hon yn dechnegol ei natur a bod y gwelliannau y mae’n eu gwneud yn fach.

Rydym hefyd yn anghytuno â'r honiad ym mharagraff 5.1 o'r Memorandwm Esboniadol nad yw'r gwelliannau yn cynnwys unrhyw newid polisi sylweddol.

Yn ein barn ni, mae symud oddi wrth gyd-gydnabyddiaeth o gymwysterau gofal cymdeithasol o dan gyfraith yr UE yn newid polisi sylweddol ac na ddylid ymdrin â hyn ar ffurf "gwelliannau technegol". At hynny, p'un a oes gan Lywodraeth Cymru ddewis o ran pa drefniadau newydd y dylid eu rhoi ar waith ai peidio, mae'r Rheoliadau hyn yn dal i gynnwys newid polisi sylweddol ym maes hanfodol a sensitif gofal cymdeithasol.]

Ymateb y Llywodraeth

Os nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor o ran y weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro pam ei bod yn anghytuno ag argymhelliad y Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 27.9B.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

4 Chwefror 2019